Croeso

Mae Ann’s Pantry yn gaffi a bwyty sydd yn cael ei redeg gan deulu ym mhentref prydferth Moelfre. Rydym yn ymdrechu i weini cynnyrch o safon uchel a phan mae’n bosib byddwn yn sicrhau ei fod yn lleol.Caiff pysgod a chregyn môr eu cynnwys ar ein bwydlen yn gyson gyda chranc a chimwch yn cael eu cyflenwi gan gwmni lleol. Daw’r rhan fwyaf o’n cigoedd safon uchel o darddiadau lleol a Chymreig ac yn ystod yr haf mae llawer o’n ffrwythau a’n llysiau yn cael eu tyfu ar ffermydd Ynys Môn.

Partion preifat a gweithgareddau

Ar agor pob dydd o 10.00 y bore.  Gweinir swper nes 9.00 yr hwyr.  Galwch i archebu bwrdd.

Mae gennym le delfrydol i chi gynnal eich brecwast priodas, te angladdol, partion bedydd a phenblwydd yma. Beth bynnag fo’r achlysur gallwch ddibynnu arnom i ddelio gyda’ch gofynion yn  fedrus/ddeheuig ac ystyrlon. Mae croeso i chi alw er mwyn trafod. Gallwn ddarparu ar gyfer 34 person sydd yn dymuno cael prydau parod a 30 ar gyfer bwffe. 

Anghenion bwyd arbennig

Mae posib creu prydau, er engraifft heb gnau neu flawd i bobl gyda anghenion bwyd arbennig, gadewch i ni wybod wrth archebu bwrdd.

Rydym yn gwerthu gemwaith a wnaed gan piws ynghyd â nifer o eitemau eraill a fuasai’n addas fel anrhegion.

Mwy...

Ciabatta Cyw Iar

Wedi i chi gerdded ar hyd arfordir brydferth Ynys Môn, dowch i’n caffi ac adfywio gyda’n bwydydd blasus.

Mwy...

Ann's Pantry yn y gaeaf

Cysgodwch rhag y tywydd garw a mwynhewch hwyl yr wyl Ann’s Pantry!

Mwy...

Rhif Ffôn - 01248 410386 :: E-bost - enquiries@annspantry.co.uk