Cartref

Mae Ann’s Pantry yn gaffi a bwyty sydd yn cael ei redeg gan deulu ym mhentref prydferth Moelfre. Rydym yn ymdrechu i weini cynnyrch o safon uchel a phan mae’n bosib byddwn yn sicrhau ei fod yn lleol. Caiff pysgod a chregyn môr eu cynnwys ar ein bwydlen yn gyson gyda chranc a chimwch yn cael eu cyflenwi gan gwmni lleol. Daw’r rhan fwyaf o’n cigoedd safon uchel o darddiadau lleol a Chymreig ac yn ystod yr haf mae llawer o’n ffrwythau a’n llysiau yn cael eu tyfu ar ffermydd Ynys Môn. Y flwyddyn hon, byddwn yn canolbwyntio ar ddefnyddio cynnyrch fydd wedi ei dyfu yma ganddom ni.  Byddwn hefyd yn gweini mwy o de a choffi Masnach deg i fynd gyda ein dewis eang o gacennau cartref.

Partion preifat a gweithgareddau

Mae gennym le delfrydol i chi gynnal eich brecwast priodas, te angladdol, partion bedydd a phenblwydd yma. Beth bynnag fo’r achlysur gallwch ddibynnu arnom i ddelio gyda’ch gofynion yn  fedrus/ddeheuig ac ystyrlon.
Mae croeso i chi alw er mwyn trafod. Gallwn ddarparu ar gyfer 34 person sydd yn dymuno cael prydau parod a 30 ar gyfer bwffe.

Anghenion bwyd arbennig

Mae posib creu prydau, er engraifft heb gnau neu flawd i bobl gyda anghenion bwyd arbennig, gadewch i ni wybod wrth archebu bwrdd gyda’r nos.

Cynnwys Wefan

Yr ydym wrthi ymdrechu i gyfieithu cynnwys y wefan i Gymraeg. Ymddiheurwn am unrhyw anghufleusdod yn y cyfamser.